Posted 18.04.2019

Rhaglen tai arloesol – yr hen Sied Nwyddau yn Y Barri

Nod y prosiect adnewyddu trefol a arweinir gan dai, sy’n cael ei ddarparu mewn partneriaeth gyda’r sector preifat, yw integreiddio model ‘byw gwaith’ hyblyg, a symud i ffwrdd oddi wrth brosiectau traddodiadol sydd wedi’u rhannu’n barthau gwahanol ar gyfer mathau gwahanol o ddefnydd a sydd drwy hynny’n colli buddion cydleoliad.

Derbyniwyd caniatâd cynllunio ar gyfer y datblygiad yn Y Barri ym mis Chwefror 2019, ac mae’n cynnwys adnewyddu adeiladau o bwys hanesyddol, darpariaeth cartrefi newydd sbon ac adeiladu arloesol. Darperir y cynllun aml-ddefnydd mewn partneriaeth gyda DS Properties (Goods Shed) Ltd a Chyngor Bro Morgannwg, gyda Newydd yn darparu’r datblygiad tai ar rent cymdeithasol a phreifat fel rhan o’r cynllun ehangach hwn.

Bydd Newydd yn dechrau ar y safle yn syth, ac yn darparu’r 24 fflat un a dwy ystafell wely ar rent cymdeithasol a 18 ar rent preifat i denantiaid cyn diwedd 2020. Y gobaith yw y bydd y rhain yn cynnig y lle perffaith i drigolion fyw a gweithio, neu i ddechrau menter newydd.

Yn ystod y broses adeiladu, cynhelir digwyddiadau ymgysylltu â'r gymuned ar y safle er mwyn cynnwys a hysbysu’r gymuned, ac i annog diddordeb mewn gweithio yn y sector adeiladu. Bydd y tîm cynllunio hefyd yn defnyddio dulliau adeiladu arloesol, gan gadw at strategaeth carbon isel drwyddi draw.Bydd partner Newydd ar y datblygiad yn darparu elfennau masnachol y cynllun, ac mae hyn yn cynnwys pentref cynhwysydd llong sy’n cynnig cyfle i fusnesau newydd bychain ddechrau o fewn cymuned lle gall pobl gymdeithasu, gweithio a byw. Yn wahanol i swyddfa draddodiadol, bydd mannau cydweithio yn cynnwys aelodau sy’n gweithio i wahanol gwmnïau, mentrau a phrosiectau. Bydd hyn yn hybu rhwydweithio rhwng ystod eang o feysydd ac yn darparu platfform ar gyfer cydweithio. Bydd y gofod gweithio cydweithredol sydd ar gael yn caniatáu i fusnesau gymryd mantais o hyblygrwydd gweithio 24-awr am gost sefydlog misol isel, gan herio modelau busnes confensiynol drwy gynnig oriau hyblyg.

Yn ogystal â hyn, bydd y gofod masnachol yn cefnogi busnesau newydd a busnesau sefydledig sy’n frwd i ehangu a thyfu. Cynigir prydlesau byrdymor a rhai hirdymor er mwyn cefnogi BBaCh-au a chwmnïau annibynnol newydd. Y nod yw arloesi athroniaeth a fydd yn paratoi’r ffordd ar gyfer datblygiadau yn y dyfodol i hwyluso arferion gwaith hyblyg a modern ochr yn ochr â thai, gan ddilyn egwyddorion byw, gweithio a chwarae.

Dywedodd Paul Roberts, Prif Weithredwr Newydd, “Mae tai fforddiadwy o safon uchel yn elfen hanfodol mewn unrhyw brosiect adfywio, a bydd yr hen Sied Nwyddau yn darparu datblygiad amlddeiliadaeth gyda chartrefi preifat ochr yn ochr â thai fforddiadwy a gofod masnachol. Mae’r cynllun hwn yn cynnig mynediad i gartrefi newydd o safon uchel a gofod gwaith o fewn cymuned gynaliadwy yng nghanol Y Barri.”

Mae’r datblygiad yn un o dri chynllun gan Newydd sydd wedi derbyn cyllid Rhaglen Tai Arloesol Llywodraeth Cymru oherwydd y ffordd greadigol mae’r gymdeithas wedi mynd ati i ddefnyddio’r datblygiadau preswyl hyn. Mae’r cynlluniau eraill - hefyd ym Mro Morgannwg - yn cynnwys byngalo wedi ei addasu mewn ffordd ynni-positif yn Dyffryn gyda chynllun carbon isel a thechnoleg ynni adnewyddadwy, a’r llall yn Llan-gan, sy’n cynnig canolfan busnes gwledig ac unedau preswyl gan ddefnyddio’r dull Beattie Passive.

Newyddion diweddaraf