Posted 16.04.2021

Unigolyn yn derbyn cyllid i ymgymryd â chymhwyster hyfforddi diolch i’r rhaglen Buddion Cymunedol ar ddatblygiad tai newydd

Mae’r 4 fflat un ystafell wely, 8 tŷ dwy a thair ystafell wely ac un byngalo dwy ystafell wely yn cael eu hadeiladu yn Llanganna gan ddefnyddio’r Beattie Passive Build System, sydd hefyd yn darparu sgiliau a hyfforddiant gwerthfawr i unigolion yn Ne Cymru.

Roedd y cynigion gwreiddiol ar gyfer y tai effeithiol o ran ynni yn cynnwys cynllun adsefydlu carcharorion wedi’i drefnu gan Wasanaeth Carchardai a Phrawf EM allan o Garchar EM y Parc mewn partneriaeth gyda’r contractwyr Canna Developments Ltd.

Ond oherwydd y pandemig COVID-19, tynnwyd elfen “rhyddhau am y dydd” y cynllun yn ôl gan fod Carchar EM y Parc yn parhau i fod o dan gyfyngiadau symud. Fodd bynnag, cyflogwyd pedwar carcharor o ddechrau’r prosiect i gynhyrchu modiwlau Beattie Passive o fewn y carchar, ac mae’r pedwar nawr yn cwblhau eu cymwysterau achrededig.

Er i’r elfen rhyddhau am y dydd o Garchar EM y Parc gael ei dynnu’n ôl, atgyfododd Canna Developments Ltd y cynllun gwreiddiol ddiwedd mis Tachwedd gyda Charchar EM Prescoed, gan fod hwnnw’n garchar agored sy’n parhau i hwyluso cyfleoedd cyflogaeth rhyddhau am y dydd. Mae saith o garcharorion nawr yn cael eu cyflogi gan Canna Developments er mwyn ennill profiad gwerthfawr o’r safle adeiladu cyn iddyn nhw gael eu rhyddhau.

Dywedodd Rhodri Crandon, Rheolwr Gyfarwyddwr Canna Developments: “Mae’r unigolion o Garchar EM Prescoed yng Nghategori D ac mae’r profiad gwaith maen nhw’n ei gael tra’n dal yn y carchar yn amhrisiadwy wrth iddyn nhw baratoi ar gyfer y farchnad swyddi ar ôl eu rhyddhau. Byddant yn ennill profiad gwaith gwerthfawr ar y safle ac yn datblygu sgiliau newydd o dan oruchwyliaeth ein crefftwyr cymwysedig.

Ar sail hyn i gyd, a gan ein bod ni’n talu’r isafswm cyflog iddyn nhw a chyn belled â’u bod yn parhau i weithio’n dda ar y safle, byddan nhw’n cael eu rhyddhau gyda phrofiad gwaith gwerthfawr, geirda gan y cwmni ac arian i’w helpu i gael llety a gwaith yn y dyfodol.”

Drwy raglen Buddion Cymunedol Newydd, mae un o’r carcharorion cyflogedig wedi derbyn cyllid i ymgymryd â chwrs SMSTS (Cynllun Hyfforddi Diogelwch Rheolwr Safle) er mwyn paratoi ar gyfer y farchnad swyddi pan fydd e’n cael ei ryddhau.

Dywedodd Shannon Maidment, Cydgysylltydd Adfywio Cymunedol yn Newydd, “Mae Tîm Adfywio Cymunedol Newydd yn gweithio i gefnogi ein gweledigaeth gorfforaethol o greu cymunedau cynaliadwy. Rydym yn ceisio cefnogi prosiectau, gweithgareddau ac unigolion i deimlo’u bod yn cael eu cynnwys a bod ganddyn nhw gyfle cyfartal beth bynnag eu cefndir.

Mae helpu’r unigolyn hwn i greu cyfleoedd ail-hyfforddi a chyfleoedd gwaith eraill yn cefnogi adferiad COVID-19, sy’n hanfodol pan ddaw’n amser gadael y carchar. Gyda’r gefnogaeth ychwanegol oddi wrth y contractiwr o ran cyllido llety a gwaith yn y dyfodol, bydd cefnogi’r cyfle hyfforddi hwn yn gymorth i’r unigolyn wrth iddo ddychwelyd i gymdeithas a gwireddu’r uchelgais o fod yn Rheolwr Safle.”

Bydd y cartrefi newydd sbon hyn yn Llanganna yn cael eu cynnig am rent fforddiadwy gan Newydd, gan ddefnyddio Homes4U, y gofrestr tai ar gyfer y sir a reolir gan Gyngor Bro Morgannwg. Gobeithir y bydd y datblygiad wedi ei gwblhau yn haf 2021.

Llun uchod: Shannon Maidment o Gymdeithas Tai Newydd, Rhodri Crandon o Canna Developments Ltd a Andrew Redman o Gymdeithas Tai Newydd .

Newyddion diweddaraf