Posted 02.12.2019

Partneriaid tai yn adnewyddu cytundeb tai fforddiadwy

Cyfarfu Cyngor Bro Morgannwg a’i bartneriaid datblygu yn ddiweddar i lofnodi’r fersiwn diweddaraf o Ganllaw y Bartneriaeth Tai Fforddiadwy.

Daeth cynrychiolwyr o Adran Tai y Cyngor, Tai Hafod, Newydd, United Welsh, Tai Wales and West ynghyd i lofnodi’r cytundeb newydd, a lofnodwyd diwethaf tua deng mlynedd yn ôl.

Mae’r canllaw yn cyflwyno dull cytunedig o gydweithio. Mae’n ddatganiad o ymrwymiad rhwng y partneriaid, sy’ esbonio sut y bydd tai fforddiadwy yn parhau i gael eu cynllunio a’u datblygu yn y Fro.

Mae’n nodi sut y bydd y bartneriaeth yn gweithio; yr hyn a ddisgwylir gan bob partner a’r cyfrifoldebau ac ymddygiad a ddisgwylir bob un ohonynt er mwyn cynnal partneriaeth effeithiol.

Drwy ei Strategaeth Tai Lleol, bydd y Cyngor yn gweithio fel arweinydd a galluogwr strategol er mwyn sicrhau y bod marchnad dai effeithiol ar waith, wrth barhau â’i waith i fodloni’r galw am dai yn yr ardal.

Mike Ingram, Pennaeth Gwasanaethau Tai ac Adeiladu : “Rydym wedi gweld datblygu yn ffynnu ym Mro Morgannwg, gyda channoedd o dai newydd yn cael eu codi i’w rhentu’n gymdeithasol a llawer mwy yn dod ar gael drwy’r cynllun rhannu ecwiti Aspire2Own.

“Mae chwarae ein rhan yn y gwaith o gyflwyno’r tai newydd o ansawdd uchel i bobl ledled y Fro yn anrhydedd. Mae’r Glannau yn enghraifft wych o’r gwaith adfywio a fydd yn helpu i sicrhau dyfodol disglair i’r Barri, gan ddenu busnesau a swyddi.

“Rydym hefyd yn falch bod Tîm Datblygu’r Cyngor bellach yn un o’r partneriaid a restrir yng nghanllaw’r Bartneriaeth, gan fod y Cyngor nawr yn adeiladu ei dai cyngor newydd ei hun, gan helpu i fodloni’r galw cynyddol.”

O'r chwith i'r dde: David Hayhoe, Dirprwy Brif Weithredwr Cymdeithas Tai Hafod; Lynnette Glover, Cyfarwyddwr Tai Tai Wales and West; Mike Ingram, Pennaeth Tai a Gwasanaeth Adeiladu Cyngor Bro Morgannwg; Lynda Sagona, Prif Weithredwr United Welsh; Paul Roberts, Prif Weithredwr Cymdeithas Tai Newydd.

Newyddion diweddaraf