Posted 29.07.2019

Greenwood Close yn croesawu ei denantiaid cyntaf

Wrth i gontractwyr sgubo’r graean olaf, a’r glanhawyr orffen rhoi’r cyffyrddiadau terfynol i’r eiddo heddychlon hwn, ar fore Llun mae Greenwood Close, datblygiad gwerth £2.1 miliwn sydd wedi cymryd 18 mis i’w godi, ar fin croesawu tenantiaid yn haul cynnes mis Gorffennaf.

Mae’r 6 fflat un-llofft, a’r 9 tŷ dwy-lofft am rent fforddiadwy, wedi cael eu codi gan J G Hale Construction Ltd ar ran Cymdeithas Tai Newydd mewn partneriaeth â Chyngor Bro Morgannwg, ac wedi’i ariannu gan Lywodraeth Cymru yn ogystal â chyllid preifat.Yn araf bach, mae’r stryd yn dod yn fyw wrth i lif cyson o denantiaid gyrraedd pentref bychan Twyn-yr-Odyn, ger Gwenfô. Mae’r cartrefi newydd sbon hyn yn cynnig golygfeydd gwych o Fynydd y Garth i’r gogledd, a thirnodau cyfarwydd Caerdydd i’r dwyrain.

Mae Joseph a Sophie, cwpwl ifanc gyda’u mab bach, Roman, yn wên o glust i glust wrth iddyn nhw gael eu tywys o gwmpas eu cartref newydd.

“Rwyf wrth fy modd!” meddai Sophie dan chwerthin a siglo ei mab yn ei breichiau wrth i’w phartner Joseph ychwanegu, “Rydyn ni wedi edrych ymlaen at hyn am amser hir. Mae’n gartref hyfryd, lleoliad hyfryd, ac rwy’n methu aros i gael symud popeth i mewn yma.”

Ychydig ddrysau i ffwrdd oddi wrth Sophie a Joseph, mae hen fam-gu a hen dad-cu Roman, Mr a Mrs Manfield, yn aros eu tro i gael edrych o gwmpas eu cartref newydd.

Mae Mr Manfield yn mynegi ei lawenydd, “Mae’r adeiladwyr wedi gwneud gwaith gwych ar y cartrefi yma. Mae’r help a’r sylw gawson ni gan Newydd wedi bod yn eithriadol. Mae Deb, ein Swyddog Tai, wedi dod yn ffrind, yn ein helpu ni a’r teulu cyfan bob cam o’r ffordd, ac mae wedi gwneud i ni deimlo bod croeso i ni yma.”Bydd Paige yn byw ychydig ddrysau i ffwrdd; mae hi chwe mis yn feichiog ac yn edrych yn falch iawn ei bod yn symud i mewn. “Mae’r misoedd diwethaf wedi bod yn anodd. Rwyf wedi bod yn ddigartref am dros chwe mis ac ni allaf ddweud wrthych chi cymaint mae hyn yn ei olygu i mi. Rwy’n methu aros i gael setlo fy merch dair blwydd oed i’w chartref newydd, i’w chael i’r ysgol, ac yna mewn ychydig fisoedd byddaf yn croesawu aelod newydd o’n teulu ni i’r byd.”

Mae ei chymdogion drws nesaf, Abbie, Blayne, a Hunter y babi bach, eisoes wedi penderfynu treulio eu noson gyntaf yn eu cartref newydd y noson honno. “Rydyn ni wedi bod yn byw gyda’n rhieni, felly bydd yn braf cael ychydig o annibyniaeth. Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at gael addurno stafell wely Hunter. Rydyn ni wedi cynllunio popeth, bydd yn edrych fel saffari.”Mae Cheryl a’i merch wedi bod yn crwydro’r stad ers iddyn nhw gyrraedd. Mae dagrau yn llygaid Cheryl wrth iddi ddweud, “Sori, dwi ddim wedi stopio llefain ers i mi gyrraedd yma. Does dim byd o’i le, dim ond bod popeth wedi mynd yn drech na mi! Mae’r lle yma mor arbennig, mae’r golygfeydd yn anhygoel, rwy’n gweithio o fewn tafliad carreg. Rwy’n mynd i symud i mewn a chysgu yma heno. Mae Dad wedi dod â’i fan ac mae fan arall ar y ffordd yn llawn o ’mhethau fi i gyd.”Wrth i’r diwrnod fynd yn ei flaen mae gosgordd o gerbydau yn cyrraedd gyda mwy o denantiaid a’u heiddo, a’r ffordd oedd yn gynharach yn dawel, nawr yn ferw o brysurdeb ac yn fwrlwm o egni cyffrous. Mae’n gynllun mae’r Swyddog Tai, Debra Roberts, yn falch iawn ohono: “Mae ’na gymysgedd gwych o bobl yma ac mae’n ymddangos eu bod i gyd eisoes yn dod ymlaen â’i gilydd yn dda. Mae eisoes yn teimlo fel cymdogaeth, ac rwy’n dymuno pob hapusrwydd i bawb ar gyfer y dyfodol.”

Newyddion diweddaraf