Posted 10.11.2020

Dod i adnabod ein Prif Weithredwr newydd

A fyddai Jason Wroe, ein Prif Weithredwr newydd, yn teithio i blaned Mawrth? Beth oedd ei swydd gyntaf? A gyda phwy fyddai e’n hoffi treulio diwrnod ar ôl y cyfnod clo? Fe gewch wybod mwy amdano yma …

  1. Rydym yn gwybod dy fod wedi gweithio ym maes tai ers dros 30 mlynedd, ond beth oedd dy swydd gyntaf un? Pan oeddwn i’n 16 oed roeddwn i’n gweithio ar ddydd Sadwrn mewn siop recordiau o’r enw “Classical Rock” ond wnes i erioed fynd â fy nghyflog o £15 y diwrnod adref – roeddwn i bob amser yn mynd â recordiau/CDs adref yn lle hynny ... Fy swydd amser llawn gyntaf oedd gweithio i Lloyds Bank yn Knightsbridge, lle wnes i addunedu na fyddwn i byth eto’n gweithio yn y sector preifat ...
  2. Beth oeddet ti eisiau bod ‘ar ôl tyfu lan’? Ers pan oeddwn i’n 3 oed, roeddwn i’n anelu at fod yn Brif Weithredwr i landlord cymdeithasol cofrestredig yng Nghymru ... Ond yr ateb go iawn ydi fy mod i, ers yn ifanc iawn, yn mynd i fod yn yrrwr trên a dim byd arall.
  3. Beth fyddet ti’n wneud petai gen ti bwerau cudd? Cadw’r peth yn gyfrinach: mae uwch-arwyr wastad yn cael amser caled. Ond sut ydych chi’n gwybod nad oes gen i bwerau cudd eisoes?
  4. Beth oedd yr anrheg ddiwethaf wnes ti ei rhoi i rywun? Jar hen-ffasiwn o losin sarsaparilla i’m gwraig.
  5. Pa un oedd dy hoff ddiwrnod gwaith yn Newydd hyd yn hyn? Mae’n swnio’n gawslyd, ond mae llwythi ohonyn nhw, yn mynd nôl yr holl ffordd i 1996 – un diweddar (ac rwy’n dal i siarad amdano gyda phawb) oedd pan es i â thri aelod newydd o’r Bwrdd am daith o amgylch ein hystadau, a thenant yn dod mas ar hap a sgwrsio ag aelodau’r Bwrdd a dweud pa mor wych oedd bod yn denant i Newydd!
  6. Pa un oedd y broblem orau i ti ei datrys? Dwi ddim yn hoffi’r cwestiwn yna – mae’n rhoi poen pen i mi.
  7. Pa atgofion sydd gen ti o dyfu i fyny, sydd wedi dy wneud ti’r person wyt ti heddiw? Roedd fy nhad yn arfer dweud, “mae’n llunio cymeriad” am bob un peth a ddigwyddodd i mi erioed ...
  8. Yn ystod y cyfnod heriol hwn dydyn ni ddim yn cael cyfarfod â’n ffrindiau ac â’n teulu fel roedden ni’n arfer. Pe bydde ti’n cael cyfarfod ag unrhyw un am y diwrnod, pwy fyddai hwnnw/honno, a pham? Mam - mae ganddi dementia a dydw i ddim wedi gallu ei gweld (ac eithrio ychydig o FaceTimes dryslyd iawn) ers mis Ionawr. Roeddwn i fod i’w gweld yr wythnos y daeth y clo mawr cyntaf, a phob tro ers hynny mae achosion tybiedig o Coronavirus yn ei chartref wedi golygu bod yr ymweliad yn cael ei ganslo, felly does gen i ddim syniad pryd (neu os) byddaf yn ei gweld eto.
  9. Beth fydde ti’n ei wneud petai ti’n cael diwrnod gwael yn y gwaith? Mynd am dro, neu fynd am reid ar y beic.
  10. Fydde ti’n ystyried teithio i blaned Mawrth petai’n dod yn gyrchfan teithio yn y dyfodol ar ôl dyddiau Covid? A bod yn onest, yn y byd ôl-Covid fyddwn i’n hapus i gyrraedd siop hufen iâ Llanfaes yn Aberhonddu.
  11. Beth wyt ti’n hoffi ei wneud orau yn dy amser hamdden? Rhwng y ddau gyfnod clo fe lwyddais i fynd am drip i Aberystwyth gyda fy mab 17 oed ar ein beiciau modur – fyddwn i wrth fy modd cael gwneud hynny eto. Ond mae fy amser hamdden wedi’i lanw â phethau fel mynd â’r ci am dro, beicio, a chwilio’r rhyngrwyd i weld beth ydi’r teclyn anhygoel nesaf fydd yn trawsnewid fy mywyd.

Newyddion diweddaraf