Posted 03.09.2020

Mae Cyfeillion St Canna yn derbyn rhodd o £1500 diolch i ddatblygiad tai Llangan

Mae Cymdeithas Tai Newydd ynghyd â Canna Developments yn cefnogi’r gymuned leol trwy roi £1500 i Gyfeillion Sant Canna sy’n rhedeg yr Hen Ystafell Ysgol, canolfan gymunedol yn Llangan, Bro Morgannwg.

Defnyddiwyd yr Hen Ystafell Ysgol (HYY) fel festri'r eglwys ond daeth bron yn ddiffaith nes i grŵp o bobl leol benderfynu ei chymryd drosodd ar brydles gan yr eglwys a'i hadnewyddu. Ar ôl llawer o godi arian daeth yr adeilad yn ganolbwynt bywyd pentref yn Llangan, gan ddod â'r gymuned ynghyd.

Cyn COVID-19 cyfarfu sawl clwb yn y ganolfan; o glybiau ioga i glybiau llyfrau. Cynhaliwyd digwyddiadau codi arian yn y ganolfan hefyd er mwyn codi arian i gynnal a chadw'r adeilad. Roedd y rhain yn cynnwys boreau coffi, gwerthu cacennau, cyngherddau a ffair - roedd pob un ohonynt yn boblogaidd iawn yn y gymuned. Yn ogystal â hyn, prynodd y Pwyllgor HYY babell fawr a ddefnyddiwyd ar gyfer Sioe Gŵn Blynyddol, Parti Gardd ac a gafodd ei llogi ar gyfer digwyddiadau preifat gan y bobl leol. Fodd bynnag ers y pandemig, mae'r grŵp cymunedol wedi cael trafferth codi'r incwm i gynnal a chadw ac atgyweirio'r adeilad.

Dywedodd Shannon Maidment, Cydlynydd Adfywio Cymunedol yn Newydd, “Gweledigaeth Newydd yw darparu cartrefi fforddiadwy a chefnogi cymunedau cynaliadwy gyda gwasanaethau rhagorol i denantiaid a chwsmeriaid. Rydym yn sicrhau bod ein holl ddatblygiadau newydd yn cefnogi'r gymuned leol y maent i ddod yn rhan ohoni. Fe'n gwnaed yn ymwybodol bod Cyfeillion St Canna wrthi'n codi arian o ganlyniad i golli incwm a achoswyd gan COVID-19. Rydym yn falch iawn o’u cefnogi gyda'r rhodd hon sydd am gynnal y cyfleuster hwn ar gyfer y gymuned gyfan yn ystod yr amser heriol hwn.”

Bydd y rhodd ariannol gan Newydd a Canna Developments yn mynd tuag at gynnal y ganolfan gymunedol. Roedd y ddau gwmni eisiau cefnogi'r prosiect hwn gan ei fod yn mynd i'r afael ag arwahanrwydd cymdeithasol trwy hwyluso gweithgareddau sy'n annog pobl i fod yn egnïol ac yn gysylltiedig yn eu cymunedau.

Dywedodd Howard Pearson, Cadeirydd Eglwys Llangan ac Ystafell yr Hen Ysgol, “Rwy’n falch iawn o dderbyn y grant hwn ar ran yr Hen Ystafell Ysgol ac Eglwys St Canna. Mae'r pandemig presennol wedi lleihau'r incwm sydd ei angen i gynnal adeiladwaith yr adeiladau hyn a bydd yr arian hwn yn gwneud i fyny am rywfaint o'r diffyg hwn, gan ariannu rhai atgyweiriadau a chynnal a chadw brys yn bennaf. "

Dywedodd Rhodri Crandon o Canna Developments, “Mae Canna Developments yn hynod falch o helpu Cyfeillion Sant Canna gyda chyllido atgyweiriadau a chynnal a chadw sy’n gysylltiedig ag Eglwys St. Canna, Llangan. Mae enw'r cwmni wedi'r cyfan yn deillio o'r eglwys a'r pentref!”

Mae Cymdeithas Tai Newydd, mewn partneriaeth â Chyngor Bro Morgannwg, yn datblygu'r cartrefi fforddiadwy cynaliadwy iawn gan ddefnyddio cyllid preifat, cyllid Rhaglen Tai Arloesol Llywodraeth Cymru a Grant Tai Cymdeithasol. Bydd Cwrt Canna Cyf yn datblygu ac yn rheoli'r unedau masnachol cyfagos i ffurfio canolbwynt busnes gwledig mewn cydweithrediad â Chymunedau Gwledig Creadigol.


Llun: O'r chwith i'r dde, Rhodri Crandon, Howard Pearson a Shannon Maidment.

Newyddion diweddaraf