Posted 10.01.2024

Materion cydraddoldeb: Rhagoriaeth wrth hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth

Mae'n bleser gennym gyhoeddi ein bod wedi ennill y wobr 'Rhagoriaeth wrth hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth' gan Sefydliad Tai Siartredig (CIH) yng Ngwobrau Tai Cymru ym mis Tachwedd 2023. Roedd y wobr hon yn cydnabod sefydliadau sy'n arwain ar hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn eu busnesau.

Mae ein tîm ymroddgar wedi gwneud cydraddoldeb yn rhan sylfaenol o’n cenhadaeth, ac mae’r gydnabyddiaeth hon yn ein hysgogi i barhau i gael effaith bositif.

Mae rhai o’n uchafbwyntiau allweddol o'n gwaith dros y flwyddyn diwethaf yn cynnwys:

  • Cyflwyno calendr cynhwysiant mewnol i'n staff ar gyfer codi ymwybyddiaeth a dathlu nodweddion gwarchodedig.
  • Gosod meddalwedd ReciteMe ar ein gwefannau i wella hygyrchedd.
  • Cynnal asesiadau effaith cydraddoldeb ar ein strategaethau i sicrhau bod ein gwasanaethau yn deg ac yn gynhwysol.
  • Cryfhau ein polisi troseddau casineb a mabwysiadu agwedd dim goddefgarwch tuag at ymddygiad/iaith amhriodol.
  • Cyd-gynhyrchu pedair siarter gyda ein tenantiaid, gan integreiddio ystyriaethau cydraddoldeb.
  • Gwell arferion o ran recriwtio aelodau o'n Bwrdd, gan arwain at recriwtio aelod newydd sydd o gefndir lleiafrifoedd ethnig yn llwyddiannus.
  • Cynhyrchu adroddiad cydraddoldeb blynyddol manwl i'r bwrdd, sydd yn dadansoddi meysydd allweddol o ddarparu gwasanaeth yn ôl nodweddion gwarchodedig.
  • Dadansoddiad manwl o ddata a chwynion i nodi tueddiadau a sicrhau triniaeth deg i bawb. 
  • Mynd i'r afael â thangynrychiolaeth o bobl o leiafrifoedd ethnig trwy fabwysiadu Rheol Rooney.
  • Monitro data proffilio tenantiaid yn barhaus er mwyn teilwra gwasanaethau'n effeithiol i anghenion amrywiol.
  • Datblygu canllawiau hygyrchedd ar gyfer cyfathrebu. 
  • Cynhyrchu dau e-gylchlythyr bob mis i denantiaid i rannu diweddariadau a chyflawniadau ein sefydliad.
  • Cyflwyno pop-ups cymunedol er mwyn cynyddu ein gwelededd a darparu cyfleoedd cyfathrebu wyneb yn wyneb gyda thenantiaid.
  • Darparu SIMS a chymorth digidol 1-2-1 am ddim i denantiaid, ynghyd â gosod seinyddion clyfar mewn lolfeydd cymunedol yn ein cynlluniau byw’n annibynnol.
  • Datblygu Cynllun Gweithredu Gwrth-hiliol Cymru mewn cydweithrediad â thenantiaid Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig. 
  • Ennill achrediad 'Dementia Friends'.
  • Cwblhau Asesiad Safonau Ymgysylltu â Thenantiaid (TESA) TPAS Cymru yn llwyddiannus gan sicrhau arferion ymgysylltu cynhwysol. 
  • Ennill Gwobr Platinwm Visibly Better RNIB Cymru mewn pedwar cynllun byw’n annibynnol i wella annibyniaeth i denantiaid sydd wedi colli eu golwg.

Diolch yn fawr i Tai Pawb am ein harwain ac am ein cefnogi drwy ein cynllun gweithredu QED. Mae’r wobr hon yn arwydd o’r cynnydd rydym wedi’i wneud ers dechrau ein taith QED yn 2020.

Rydym wedi ymrwymo i gael mwy fyth o effaith ym maes cydraddoldeb ac amrywiaeth, a dyw’r daith ddim wedi dod i ben. Byddwn yn parhau i gydweithio gyda Tai Pawb i gynyddu dylanwad positif ein sefydliad.

Roedd yn fonws ychwanegol cael derbyn y wobr oddi wrth ein tenant a Dylanwadwr Arweiniol Amanda Lawrence, sydd hefyd ar Fwrdd TPAS ac yn aelod o’r panel QED. Diolch yn fawr iawn i bawb oedd yn rhan o’r cyrhaeddiad hwn.

Newyddion diweddaraf