Posted 24.03.2020

Gwasanaeth atgyweirio brys

Rydym wedi newid i wasanaeth atgyweirio brys i leihau cyswllt a'ch cadw'n ddiogel. Ymddiheurwn am yr anghyfleustra hwn ond mae'n hanfodol ein bod yn dilyn arweiniad y Llywodraeth.

Atgyweiriadau brys yw'r rhai sy'n hanfodol i amddiffyn eich iechyd a'ch diogelwch neu i atal difrod difrifol i'ch cartref.

Os ydych yn ansicr os yw eich atgyweiriad yn argyfwng ai peidio, gwiriwch gyda ni trwy ffonio 0303 040 1998, e-bostio enquiries@newydd.co.uk neu drwy anfon neges atom ar Fy Newydd.

Pan gyrhaeddwn eich cartref, byddwn yn gofyn cwestiynau i chi. Mae hyn yn rhoi cyfle inni asesu a yw'n ddiogel i fynd i mewn i'ch cartref. Bydd hefyd yn rhoi cyfle i chi aros mewn ystafell arall yn ystod yr atgyweiriad. Bydd unrhyw wybodaeth a roddwch i ni ar yr adeg hon yn cael ei gadw'n gyfrinachol a'i ddarparu i'r rhai sydd â hawl gyfreithlon i'w gwybod yn unig.

Nid yw gweithredu gwasanaeth atgyweiriadau brys yn gwarantu y bydd atgyweiriadau'n cael eu cwblhau cyn pen 24 awr. Byddwn yn cwblhau atgyweiriadau cyn gynted ag y gallwn, er mwyn sicrhau eich diogelwch yn ogystal â diogelwch ein staff.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau pellach, cysylltwch â ni.

Newyddion diweddaraf