Posted 09.11.2023

Dangos ein hymrwymiad i gynaliadwyedd

Rydym wrth ein bodd cael cyhoeddi ein bod wedi derbyn y Wobr Efydd mewn Llythrennedd Carbon, mewn cydnabyddiaeth o’n hymrwymiad i gynaliadwyedd a chyfrifoldeb amgylcheddol.

Daw’r gydnabyddiaeth hon oddi wrth y fenter amgylcheddol flaenllaw Y Prosiect Llythrennedd Carbon. Mae’r wobr yn cydnabod y camau cychwynnol rydym wedi’u cymryd i hybu llythrennedd amgylcheddol ymysg ein staff ymroddgar, tenantiaid, a’r gymuned ehangach. Mae hefyd yn dangos ein hymrwymiad i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd byd-eang dybryd a pharatoi’r ffordd ar gyfer dyfodol cynaliadwy.

Dywedodd Jason Wroe, Prif Weithredwr Newydd, “Mae’n anrhydedd cael derbyn y Wobr Efydd hon mewn Llythrennedd Carbon, sy’n adlewyrchu ein hymdrechion parhaus i gael effaith positif ar yr amgylchedd. Mae’r cyflawniad hwn yn destament i ymroddiad ein staff a thenantiaid i gynaliadwyedd. Byddwn yn parhau i weithio tuag at nodau lleihau carbon mwy uchelgeisiol fyth, ac yn ymwreiddio hyn yn ddyfnach yn niwylliant ein sefydliad.”

Llunio dyfodol cynaliadwy yn Newydd

Yma yn Newydd rydym wedi bod yn integreiddio egwyddorion Llythrennedd Carbon i mewn i’n gweithrediadau dydd-i-ddydd, o’n Rhaglen Ôl-osod er mwyn Optimeiddio i hybu arferion eco-ymwybodol ymysg ein gweithlu. Mae’r ymrwymiad hwn i arferion cynaliadwy wrth galon ein sefydliad.

Hyd yma, rydym wedi darparu hyfforddiant Llythrennedd Carbon i 31 o’n staff, gan ddarparu’r wybodaeth a’r offer maen nhw’u hangen i leihau eu hôl troed carbon. Mae 40 o weithwyr eraill hefyd wedi cwblhau eu hyfforddiant ac yn aros yn eiddgar am y canlyniadau.

Mae’r Wobr Efydd mewn Llythrennedd Carbon nid yn unig yn destament i’n hymrwymiad i stiwardiaeth amgylcheddol, ond hefyd yn amlygu’r rôl bwysig rydym yn ei chwarae mewn llunio dyfodol mwy cynaliadwy ar gyfer tai cymdeithasol yng Nghymru. Rydym nawr yn anelu am dargedau mwy uchelgeisiol fyth, gydag amcan clir i ennill y wobr Arian erbyn diwedd mis Mawrth 2024.

Newyddion diweddaraf