Posted 25.10.2022

Cwrt Canna yn Llan-gan yn ennill gwobr tai fforddiadwy gorau’r DU

Mae Cymdeithas Tai Newydd, a datblygiad Cwrt Canna yn Llan-gan, wedi ennill y categori ‘Datblygiad tai fforddiadwy gorau o dan £5m’ yn y gwobrau cenedlaethol Inside Housing Development Awards.

Wedi’i ddatblygu mewn partneriaeth gyda Chyngor Bro Morgannwg a Canna Developments Ltd, derbynniodd y datblygiad gwledig £3.4 miliwn ar gyfer 13 o gartrefi ynni isel iawn ganiatâd cynllunio ym mis Ionawr 2019 a symudodd tenantiaid i mewn i’r cartrefi trawiadol ym mis Mawrth eleni.

Ariannwyd y prosiect gyda chyllid preifat, cyllid Rhaglen Tai Arloesol Llywodraeth Cymru a Grant Tai Cymdeithasol, ac fe adeiladwyd y tai – sy’n edrych fel casgliad o adeiladau fferm o amgylch iard ganolog – gan ddefnyddio’r Beattie Passive Build System.


Wrth ymateb i’r wobr, dywedodd Nathan Beattie, Gweithrediadau Masnachol yn Beattie Passive, “Rydym wrth ein bodd cael derbyn y gydnabyddiaeth hon am ein gwaith gyda Chymdeithas Tai Newydd. Mae’r cynllun hwn yn gwthio’r ffiniau o ran cynaliadwyedd a gwerth cymdeithasol. Roedd hi’n fraint cael bod yn rhan o hyn ac rydym yn falch iawn.”

Yn y broses ddyfarnu, gwnaeth y buddion cymunedol – gan gynnwys cynllun adsefydlu carcharorion, hyfforddiant a phrentisiaethau wedi’u harwain gan y contractiwr lleol Canna Developments Ltd. – argraff fawr ar y panel.

Dywedodd Rhodri Crandon o Canna Developments Ltd, “Cyflogwyd 8 o garcharorion o CEM Parc i saernïo modiwlau pren yng Nghwrt Canna, ac fe gyflogwyd 12 o garcharorion o CEM Prescoed dros y cyfnod adeiladu hefyd. O’r unigolion hyn, cafodd tri swyddi gyda ni ar ôl cael eu rhyddhau o garchar, ac mae dau o’r rheiny yn dal i weithio’n llawn amser ac fe wnaeth un weithio fel fforman safle, sy’n gyflawniad gwych.

“Fe wnaethon ni hefyd ddarparu 298 o wythnosau prentisiaeth a gyflawnwyd gan 6 o brentisiaid drwy Y Prentis, cynllun rhannu prentisiaid yn y diwydiant adeiladu. Rydw i mor falch bod gwaith caled fy nhîm yn cael ei gydnabod, yn enwedig mewn cyfnod anodd yn ein bywydau dros y 2 flynedd ddiwethaf.”

Dywedodd Jason Wroe, Prif Weithredwr Cymdeithas Tai Newydd, “Hoffem ddiolch i’n holl bartneriaid, ein tîm datblygu ac wrth gwrs i’n tenantiaid am wneud y cynllun tai hwn yn llwyddiant. Mae tenantiaid wedi dweud wrthym ni fod y cartrefi hyn yn rhoi sefydlogrwydd a dyfodol iddyn nhw, yn ogystal â ‘gwelliant anhygoel mewn llesiant’. Mae ennill y wobr yn gyflawniad gwych, ond gweld y gwenau ar wynebau ein tenantiaid sydd wir yn coroni’r cyfan.”

Dywedodd y Cynghorydd Margaret Wilkinson, Aelod Cabinet ar gyfer Tai Sector Cyhoeddus ac Ymgysylltu Tenantiaid: “Mae hyn yn gyflawniad gwych gan Gymdeithas Tai Newydd. Mae datblygiad Cwrt Canna yn dangos beth ellir ei gyflawni drwy weithio mewn partneriaeth. Yn ogystal â darparu cartrefi fforddiadwy mawr eu hangen, mae’r cynllun wedi creu swyddi lleol, hyfforddi prentisiaid newydd ar gyfer y sector adeiladu, a helpu gwella effeithlonrwydd ynni stoc tai’r wlad. Llwyddiant go iawn ar gyfer y Fro.” 

Newyddion diweddaraf