Posted 17.07.2019

Un o drigolion Y Barri yn ennill gwobr cyflawniad oes

Mae tenant a anwyd ac a fagwyd yn Y Barri wedi ennill gwobr cyflawniad oes.

Derbyniodd Cath Kinson, canol uchod, yr anrhydedd yn y seremoni gwobrau ymgysylltu tenantiaid Cymreig a gynhaliwyd gan TPAS Cymru yng Nghaerdydd ar 3ydd Gorffennaf.

Mae’r gwobrau blynyddol, a gynhaliwyd eleni yn Park Inn yng Nghaerdydd, yn amlygu sut mae tenantiaid a landlordiaid yn gweithio gyda’i gilydd i gael effaith gadarnhaol ar y lefel lleol yn y sector tai cymdeithasol.

Fe enillodd Cath Kinson, un o denantiaid Cymdeithas Tai Newydd, y Wobr Cyflawniad Oes mewn categori cystadleuol iawn. Mae Cath yn unigolyn hynod ymroddgar sy’n ei thaflu ei hun i mewn i bob her, ac mae hi wedi bod yn aelod gwerthfawr o’r gymuned sy’n gwneud gwahaniaeth positif er budd yr holl denantiaid.

Dywedodd Cath, “Rydw i wrth fy modd cael derbyn y wobr hon ac roedd yn deimlad arbennig cael ei rhannu gyda fy nghyd-denantiaid yn y seremoni. Mae rhoi peth amser i helpu yn medru gwneud gwahaniaeth mawr o ran newid y gwasanaethau y mae eich landlord yn eu darparu am y rhent yr ydych yn ei dalu. Yn y dyfodol mi fydda i yn parhau i herio, gan wneud yn siŵr bod tenantiaid wrth wraidd ein partneriaeth.”

Fe enillodd Newydd ddwy wobr arall: y wobr Cyfathrebu ac Ymgysylltu Digidol, a’r wobr ‘Tenantiaid wrth Wraidd’, a aeth i brosiect ‘Calonnau Aur’ Newydd.

Dywedodd Paul Roberts, Prif Weithredwr Newydd, “Rydym yn gweithio gyda thenantiaid er mwyn sicrhau bod ein gwasanaethau cystal â phosib. Mae’r gwobrau hyn yn cydnabod gwerth enfawr ein perthynas gyda thenantiaid, a pha mor bwysig yw hi ein bod ni’n gwrando ac yn gweithio gyda’n gilydd i wella’n barhaus. Mae Cath yn gweithio’n anhygoel o galed ac mae hi mor angerddol ym mhopeth mae hi’n ei wneud – mae hi’n llwyr haeddu’r wobr hon.”



Newyddion diweddaraf