Aur i Newydd!
Mae Newydd wedi ennill y Wobr Aur ‘Rydym yn Buddsoddi mewn Pobl’ yn dilyn proses asesu drylwyr gan y sefydliad rhyngwladol Buddsoddwyr mewn Pobl.
Mae fframwaith Buddsoddwyr mewn Pobl yn gosod y meini prawf ar gyfer perfformiad uchel drwy bobl. Mae hi’n fframwaith syml ar gyfer meincnodi effeithiolrwydd arferion arwain a rheoli mewn unrhyw sefydliad.
Enillodd Newydd achrediad Buddsoddwyr mewn Pobl am y tro cyntaf yn 1998. Eleni, mae Newydd - gyda 170 o staff a 3,000 o gartrefi - wedi cyflawni deilliannau allweddol o’r ymchwiliad Buddsoddwyr mewn Pobl sy’n cynnwys: 92% o staff yn credu bod Newydd wedi ymrwymo i amrywiaeth a 91% yn cytuno bod Newydd yn lle gwych i weithio.
Dywedodd Paul Devoy, Prif Swyddog Gweithredol Buddsoddwyr mewn Pobl, “Hoffem longyfarch Newydd. Mae achrediad Aur ‘Rydym yn Buddsoddi mewn Pobl’ yn ymdrech arbennig ar gyfer unrhyw sefydliad, ac mae’n gosod Newydd mewn cwmni da gyda nifer o sefydliadau sy’n deall gwerth pobl.”
Gan ymateb i’r wobr, dywedodd Jason Wroe, Prif Weithredwr Newydd, “Rydym wrth ein bodd - mae ennill y wobr hon yn golygu llawer i ni. Rydym yn gweithio’n galed i sicrhau bod ein staff yn mwynhau dod i’r gwaith ac yn cael y gefnogaeth i berfformio i eithaf eu gallu. Yn ddiweddar, fe wnaethom fuddsoddi yn ein prif swyddfa ac mewn technoleg newydd. Rydym wedi ymrwymo i hybu cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac rydym wedi addasu ein polisïau gweithio hyblyg er mwyn cynnig gwell cydbwysedd bywyd a gwaith. Mae ein hamgylchedd gweithio modern a chyfleoedd ar gyfer twf a datblygiad personol yn sicrhau bod ein staff yn mwynhau dod i’r gwaith.”
Am fwy o wybodaeth am Buddsoddwyr mewn Pobl, ewch i: Workplace Accreditations to #MakeWorkBetter | Investors in People