Posted 21.07.2022

Wythnos Ymwybyddiaeth Ymddygiad Gwrthgymdeithasol

Wythnos Ymwybyddiaeth Ymddygiad Gwrthgymdeithasol

Gan ei bod hi’n Wythnos Ymwybyddiaeth Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, roeddem yn meddwl y byddem yn taflu goleuni ar achos a ddigwyddodd llynedd a arweiniodd tuag at ganlyniad cadarnhaol i bawb dan sylw.

Ym mis Hydref 2021, achosodd grŵp o bobl ifanc ddifrod sylweddol i un o’n cynteddau cymunedol.

Cysylltodd Swyddog Cyswllt Dioddefwyr Gwasanaeth Troseddau Ieuenctid Cwm Taf gyda ni, a chawsom y cyfle i fod yn rhan o broses o Ddulliau Adferol.

Dulliau Adferol

Mae Dulliau Adferol yn grymuso dioddefwyr trwy roi y cyfle iddynt gyfarfod, neu i gyfathrebu â’u troseddwyr i egluro gwir effaith eu trosedd. Mae hyn hefyd yn sicrhau bod y troseddwyr yn cael ei dwyn i gyfrif, ac yn eu helpu i gymryd cyfrifoldeb a gwneud yn iawn am yr hyn maent wedi’w wneud.

Bu’r unigolion a ddifrododd yr eiddo ar un o’n hystadau yn gweithio gyda’r Gwasanaeth Troseddau Ieuenctid i gynyddu eu dealltwriaeth o ganlyniadau trosedd o’r fath a datblygu empathi tuag at y dioddefwyr. O ganlyniad, fe wnaethant gymryd cyfrifoldeb llawn am eu gweithredodd a phenderfynwyd ysgrifennu llythyrau yn ymddiheuro i breswylwyr yr effeithiwyd arnynt gan eu hymddygiad gwrthgymdeithasol.

Gweithio yn y gymuned

Yn ogystal ag ysgrifennu llythyrau yn ymddiheuro, buont hefyd yn gwirfoddoli o fewn y gymuned leol ar gyfer dangos cyfraniad gwerthfawr y gallant ei wneud i gymdeithas. Buont hefyd yn gweithio’n galed, a gyda chefnogaeth staff o’r Gwasanaeth Troseddau Ieuenctid, fe adeiladon nhw botiau plannu a gafodd eu dosbarthu i’r ardd gymunedol y fflatiau yr effeithiwyd arnynt.

Dywedodd Robert Kidd, Arweinydd Tîm Tai Newydd, “Mae’n wych gweld, trwy fod yn rhan o broses o Ddulliau Adferol, fod y bobl ifanc sy’n cymryd rhan bellach yn deall effaith ymddygiad gwrthgymdeithasol ar ddioddefwyr a’r gymuned leol. Hoffwn ddiolch iddynt am gymryd yr amser i ysgrifennu llythyrau personol yn ymddiheuro at y rhai sy’n byw yn yr ardal, ac am adeiladu planwyr i’r trigolion eu mwynhau. Hoffwn hefyd ddiolch GTI Cwm Taf am eu holl waith yn hwyluso canlyniad mor gadarnhaol.”


Llythyrau yn ymddiheuro

Dyma rai o’r llythyrau ymddiheuro a ysgrifennodd y bobl ifanc at y trigolion sy’n byw yn yr ardal:

“Rwy’n ysgrifennu’r llythyr hwn atoch i ddweud sori am y difrod rwyf wedi’i achosi i waliau un o’ch fflatiau. Rwy’n gwybod nad oedd hyn yn iawn oherwydd rwy’n gwybod faint o arian y gwnaeth pob un ei gostio, ac nid fy eiddo i ydyw i'w ddifrodi. I wneud iawn am hyn, rwyf bellach yn gweithio gyda'r Gwasanaeth Troseddau Ieuenctid am 3 mis i roi yn ôl i'r gymuned. Rwy'n teimlo'n euog am yr hyn sydd wedi digwydd a gobeithio y gallwch chi faddau i mi. Yn bendant ni fyddaf yn gwneud hyn eto, rwyf wedi dysgu bod canlyniadau i wneud pethau fel hyn, a rwyf am ddweud sori eto.”

“Rwy’n ymddiheuro am ddifrodi’ch eiddo gyda fy ffrindiau. Roeddwn yn dangos fy hun o flaen fy ffrindiau a doeddwn i ddim yn sylweddoli y byddai fy ngweithredoedd yn arwain at hyn. Ni fyddaf yn ei wneud eto, a thrwy weithio gyda GTI rwyf wedi sylweddoli bod fy ngweithredoedd wedi bod allan o reolaeth. Rydw i nawr yn canolbwyntio ar waith ysgol a dod yn berson gwell.”

“Rwyf wedi bod yn gweithio gyda’r tîm troseddwyr ifanc yn ddiweddar ac wedi adeiladu blwch i dyfu blodau ynddo, ac mae’n ddrwg iawn gennyf am y difrod a achoswyd. Roeddwn gyda ffrind ac yn ei chael hi'n anodd dweud na pan ddywedon nhw wrthym am daro'r wal. Dwi eisiau dweud bod yn ddrwg iawn gen i ac ni fydd yn digwydd eto.”

Ynglŷn â Gwasanaethau Troseddau Ieuenctid Cwm Taf Morgannwg

Mae GTI Cwm Taf yn cynnig Dulliau Adferol sy’n ceisio gweithio mewn partneriaeth â dioddefwyr troseddau a gyflawnir gan bobl ifanc, ar gyfer eu helpu i allu mynegi eu teimladau am yr hyn sydd wedi digwydd a’u dymuniadau o ran gwneud yn iawn. Mae’r dull hwn yn ceisio datblygu dealltwriaeth pobl ifanc o effaith eu gweithredoedd a nodi ffyrdd y gallant symud ymlaen, gan adeiladu ar eu cryfderau a’u hannog i ymatal rhag troseddu pellach.

Gwasanaeth Troseddau Ieuenctid | Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf (rctcbc.gov.uk) 

Newyddion diweddaraf