Posted 24.11.2022

​Arolwg bodlonrwydd tenantiaid dros yr wythnosau nesaf

Rydym yn gweithio gydag Acuity, cwmni ymchwil i’r farchnad, er mwyn cynnal arolwg ffôn. Bydd yr arolwg hwn yn gofyn beth rydych chi’n meddwl o’ch cartref a’r gwasanaethau rydym yn eu darparu. Bydd yn cynnwys 12 cwestiwn sy’n cael eu hadrodd i Lywodraeth Cymru bob blwyddyn. Mae canlyniadau 2022 i’w gweld ar wefan Llywodraeth Cymru yma ble gallwch chi gael gwybod beth yw barn tenantiaid tai cymdeithasol a thenantiaid cyngor am eu cartrefi.

Beth mae Acuity yn ei wneud?

Mae Acuity yn darparu arolygon i gymdeithasau tai er mwyn eu helpu i wella gwasanaethau. Mae hyn yn caniatáu i gymdeithasau tai fel ni i ddeall beth mae tenantiaid yn ei feddwl, a chael mewnwelediad ar lefel ein perfformiad. Maen nhw wedi bod yn gweithio gyda’r sector tai cymdeithasol ers dros 24 mlynedd.

Pwy fydd yn clywed wrthyn nhw?

Bydd Acuity yn cysylltu â chi dros y ffôn gyda’r nod o gyfweld tua 500 o bobl ym mis Tachwedd/dechrau Rhagfyr. Dylai’r arolwg gymryd tua 10 munud i’w gwblhau.

Pryd fyddan nhw’n cysylltu â chi?

Dim ond rhwng 09:30 a 19:00 ddydd Llun i ddydd Gwener, a rhwng 10:00 a 18:00 ar ddydd Sadwrn y mae Acuity yn gwneud galwadau ffôn. Bydd cyfwelwyr yn gadael i’r ffôn ganu am o leiaf 25 eiliad, neu tan iddyn nhw glywed eich peiriant ateb, er mwyn sicrhau bod tenantiaid sydd â phroblemau symud yn cael digon o amser i gyrraedd y ffôn.

Pa rif ddylwn i edrych allan amdano?

Os byddwch yn derbyn galwad gan Acuity, y rhif a ddangosir bydd 01273 093939, sydd yn god ffôn ardal Brighton. Ni fyddan nhw’n gofyn am fanylion ariannol - peidiwch â rhoi unrhyw wybodaeth ariannol i unrhyw un dros y ffôn. Os oes gennych chi unrhyw bryderon am alwad ffôn, ffoniwch ein Tîm Gwasanaethau Cwsmeriaid ar 0303 040 1998.

Ydy’r arolwg yn gyfrinachol a dienw?

Mae’r arolwg yma yn gwbl gyfrinachol a gallwch aros yn ddienw, fodd bynnag, os dymunwch, gallwch roi eich enw i Acuity fel y gallwn ymchwilio i unrhyw faterion er mwyn i ni allu gwella ein gwasanaethau.

Eisiau mwy o wybodaeth am Acuity?

Ewch i’w gwefan yma, neu ffoniwch nhw ar 01273 287114.

Os oes gennych unrhyw gwestiwn, mae croeso i chi gysylltu â ni unrhyw bryd.

Newyddion diweddaraf