Blog Anthony: Diwedd fy lleoliad gwaith rhithwir yn Newydd
Dechreuodd fy lleoliad gwaith gyda Newydd ym mis Ionawr 2021, ac er y gwyddwn y byddwn i’n dechrau ar y lleoliad, roedd yn dal i fod yn brofiad newydd ac roeddwn i’n reit nerfus. Ar y diwrnod cyntaf, cymerais ran mewn cyfres o gyfarfodydd rhaglenedig gyda’r Tîm Adfywio Cymunedol: roeddwn i’n ceisio amsugno gymaint o wybodaeth â phosib tra’n ceisio peidio â chynhyrfu, ond roedd fy stumog fel peiriant golchi. Roedd y staff yn gyfeillgar iawn ac fe wnaethon nhw fi deimlo fel rhan o’r tîm yn syth; fe wnaeth pawb rannu eu profiadau o sut wnaethon nhw ddechrau yn y sector tai a rhoi manylion am y maes y maen nhw’n gweithio ynddo.
Ar fore’r diwrnod cyntaf, fe gwrddais i â Shannon Maidment a oedd yn gyfrifol am fy lleoliad i ac sy’n gyfrifol am Buddion Cymunedol. Mae hi’n berson gwych, does dim yn ormod o drafferth iddi ac mae hi’n barod i wneud unrhyw beth o fewn ei gallu.
Aeth y cyfarfodydd yn eu blaen, ac fe wnes i gwrdd â Scott Tandy a dysgu am y cymhelliannau Cynhwysiant Digidol gwych y mae Scott wedi bod yn eu gweithredu drwy’r pandemig. “Nid oes angen dweud bod dim syniad gen i” i ddechrau; daeth hyn oll yn glir unwaith i fi ddechrau gweithio gyda Scott a dechrau ymchwilio i bynciau amrywiol wrth fynychu gweminarau ar Gynhwysiant Digidol a chyfarfodydd gyda thîm HAPI. Mae’r gwaith mae Scott wedi ei greu i sicrhau bod tenantiaid yn cael eu cynnwys yn ddigidol wedi bod yn brofiad gwych, ac mae’n dangos bod Newydd a’r tîm wir yn poeni am les ac anghenion eu tenantiaid, gan gynnwys prynu iPads gyda data, ac mae pyrth Facebook wedi eu gosod, gyda thudalennau cymorth a grëwyd gan Scott a’r tîm, a Google Classroom.
Fe ddewisais i Ôl-osod ar gyfer fy lleoliad ac fe wnes i ddysgu gymaint gyda Rachel. Mae’r tîm yn troi pob carreg pan ddaw hi i ôl-osod, a byddant yn sicrhau bod y prosiect yn cael y canlyniad gorau ar gyfer y tenantiaid sy’n cymryd rhan yn y prosiect.
Mae’r amser a dreuliais i yn Newydd wedi rhoi gwybodaeth a dealltwriaeth ymarferol i fi, yn ogystal â’r profiad angenrheidiol i roi beth dwi wedi ei ddysgu yn y brifysgol ar waith yn y gweithle. Er mai lleoliad gwaith rhithiol oedd hwn, nid ydw i wedi colli allan ar ennill profiad o fewn y gweithle: mae hyn wedi dangos pa mor hyblyg gall pobl fod mewn gwahanol sefyllfaoedd, ac yn enwedig ynghanol pandemig.
Hoffwn gymryd y cyfle hwn i ddweud pa mor ddiolchgar ydw i i Jason Wroe a’r tîm am fy nerbyn ar leoliad gwaith ac i holl staff Newydd am wneud fy amser yno yn ddymunol a gwneud i fi deimlo fel aelod o’r tîm.