Bro Morgannwg

Bro Morgannwg

Croeso i Fro Morgannwg, rhan fwyaf deheuol yng Nghymru. Cyfeirir ato'n aml fel 'Y Fro'. Mae'n ffinio gyda Phen-y-bont ar Ogwr, Caerdydd, a Rhondda Cynon Taf. Yma, mae'r economi yn dibynnu'n bennaf ar ffermio a chemegau. Mae llawer o leoedd hwyl i ymweld â nhw, fel Parc Pleser Ynys y Barri (efallai y byddwch chi'n ei adnabod o'r sioe deledu Gavin & Stacey), Rheilffordd Dwristiaeth y Barri, Parc Porthceri, Castell Sant Donat, Parc Gwledig Llynnoedd Cosmeston, a Phentref Canoloesol Cosmeston. 

Mae Bro Morgannwg ychydig i'r gorllewin o Gaerdydd, rhwng traffordd yr M4 ac Aber Hafren. Mae'n ardal hardd sy'n cwmpasu 130 milltir sgwâr ac mae ganddi 33 milltir o arfordir. Am fwy o wybodaeth, ewch i wefan Cyngor Bro Morgannwg yma.

Sut i wneud cais am gartref

I wneud cais am gartref ym Mro Morgannwg, mae'n rhaid i chi gofrestru eich diddordeb yn gyntaf gyda'r awdurdod lleol Homes4U. Yna byddant yn prosesu eich cais ac yn cysylltu ag unrhyw gwestiynau neu ymholiadau. 

Gwneud cais am gartref

I wneud cais am gartref ym Mro Morgannwg, mae'n rhaid i chi gofrestru eich diddordeb gyda'r awdurdod lleol yn gyntaf. Yna byddant yn prosesu eich cais ac yn cysylltu ag unrhyw gwestiynau neu ymholiadau.

Cofrestru am gartref

Archwiliwch pob sir

Sut i wneud cais am gartref

Cliciwch ar y botwm isod i gael gwybod sut y gallwch fynegi diddordeb yn unrhyw un o'n cartrefi sydd ar gael yn Y Fro. Cewch eich trosglwyddo i wefan Cyngor Bro Morgannwg gyda manylion am y gofrestr tai ar gyfer yr ardal, bydd angen i chi gofrestru gyda'r rhestr er mwyn gallu gwneud cais am unrhyw un o'n cartrefi.