Powys

Newtown

Tref a leolir ger Afon Hafren ym Mhowys yw Y Drenewydd. Yn 1967, daeth yn 'dref newydd', ac ers hynny, mae llawer o bobl wedi dod i fyw yma oherwydd busnesau a chyfleoedd newydd.

Heddiw, mae'r Drenewydd yn dref brysur gyda llawer o bethau i'w gwneud. Mae gan y Drenewydd oriel gelf arbennig o'r enw Oriel Davies a thŷ gwledig hardd o'r enw Gregynog, a adeiladwyd gan yr Arglwydd Davies o Landinam.

Am fwy o wybodaeth am Bowys, ewch i wefan Croeso Cymru yma.

Ein heiddo

Mae gan Newydd eiddo yn Y Drenewydd a Llandrindod. Mae ein heiddo yn y Drenewydd wedi'u gwasgaru dros ddwy ardal yn y dref.  Mae ystâd y Faenor, sy'n cynnwys amrywiaeth o dai a fflatiau ac mae ein fflatiau byw annibynnol yng Nghôs y Santes Fair ger canol y dref ar lannau Afon Hafren. Mae gennym hefyd stad fawr yn Llandrindod o'r enw Glan yr Ithon.

Sut i wneud cais am ein heiddo

Cliciwch ar y botwm gwyrdd 'Gwneud cais am gartref' isod er mwyn mynegi diddordeb mewn eiddo gwag sydd gennym. Fe fyddwch yn cael eich trosglwyddo i wefan Homes in Powys gyda manylion y gofrestr tai ar gyfer y sir. Bydd yn rhaid i chi ymaelodi gyda'r rhestr tai er mwyn mynegi diddordeb yn ein heiddo.

Gwneud cais am gartref

I wneud cais am gartref yn y Drenewydd, Powys, mae'n rhaid i chi yn gyntaf gofrestru eich diddordeb gyda'r awdurdod lleol. Byddant wedyn yn prosesu eich cais ac yn cysylltu gydag unrhyw gwestiynau neu ymholiadau a all fod ganddynt.

Cofrestri am gartref

Archwiliwch pob sir