Castell Nedd Port Talbot

Glyn-nedd

Mae Glyn-nedd yn dref fechan sy'n gorwedd ar Afon Nedd ym mwrdeistref sirol Castell-nedd Port Talbot. Daeth Glyn-nedd yn ddiwydiannol ym 1793 gyda chloddio am lo ac ehangodd pan gyrhaeddodd Camlas Nedd ym 1775. Heddiw, mae llawer o rannau o'r hen gamlas yn dal i fodoli.

Yn y gogledd-ddwyrain, gallwch ddod o hyd i raeadrau syfrdanol ger Pontneddfechan, yn agos at Fannau Brycheiniog. Mae gan yr ardaloedd gwledig o amgylch Glyn-nedd ddigonedd o goedwigoedd, sy’n ei wneud yn lle perffaith i gerddwyr, ffotograffwyr, ac unrhyw un sy’n caru cefn gwlad.

I gael rhagor o wybodaeth am Glyn-nedd, ewch i wefan Croeso Cymru yma.

Ein heiddo

Mae gennym un stad o dai yn sir o'r enw Maes yr Eglwys, a geir yng Nglyn-nedd. Hwn oedd un o’r stadau tai cyntaf i ni ei hadeiladu yng nghanol y 1970au ac mae’n cynnwys cymysgedd o dai a fflatiau. Mae drws nesaf i ffordd yr A465 (Blaenau'r Cymoedd), gan ddarparu mynediad hawdd i Abertawe a'r ardaloedd cyfagos.

Sut i wneud cais am gartref yma

Cliciwch ar y botwm 'Cysylltu a ni' ar waelod y tudalen i fynegi diddordeb mewn unrhyw un o'n cartrefi sydd ar gael yng Nglyn-nedd. Byddwch yn cael eich trosglwyddo i'n tudalen 'Cysylltu â ni' ble gallwch ddanfon neges diddordeb mewn rhentu unrhyw un o'n cartrefi yn yr ardal yma. 

Gwneud cais am gartref

Os hoffech ddysgu mwy am ein heiddo gwag ar hyn o bryd yng Nghlyn-nedd, neu os hoffech wybod mwy am wneud cais am gartref yn yr ardal hon, cliciwch ar y botwm isod a fydd yn mynd a chi at ein tudalen gyswllt.

Cysylltwch â ni

Archwiliwch pob sir