Greenwood Close

Gwenfô

Mae'r datblygiad yma o bymtheg o gartrefi fforddiadwy gyda golygfeydd gwych o Gaerdydd wedi gorffen. Mae'r 6 fflat un ystafell wely a 9 tŷ dwy ystafell wely wedi eu lleoli ym mhentrefan bach Twyn-yr-Odyn, sydd i’r de orllewin o Groes Cwrlwys ac yn agos at Wenfô a Llwyneliddon.

Wedi ei leoli ar safle tir llwyd cyn depo bysiau a chanolfan trwsio cerbyd, gwelir golygfeydd ysblennydd o Gastell Coch, mynyddoedd Caerffili a thirnodau eiconig Caerdydd yn y gerddi cefn.

Mae gwedd y datblygiad tai gwerth £2.1 miliwn yr un mor syfrdanol gan fod y tîm cynllunio wedi sicrhau bod y cynllun yn cyd fynd â hanes a chymeriad yr ardal wledig gan ddefnyddio cerrig wedi ei hail-gylchu a rendro lliwgar i ddarparu gwedd bentrefol i’r datblygiad.

Gosodwyd y cartrefi yma gan Newydd am rhent fforddiadwy, a chafon nhw eu hadeiladu i fynd i’r afael â’r angen am dai lleol gan roi blaenoriaeth i ymgeiswyr oedd â chysylltiad i’r gymuned leol. Os oes diddordeb gyda chi mewn rhentu unrhyw eiddo Newydd yn y Fro, dylech gofrestru â Homes4U, cofrestr tai fforddiadwy ar gyfer y sir.

Archwiliwch pob cartref