Ym mis Ionawr, dechreuodd y gwaith adeiladu ar hen safle Gwesty Trehafod, Ffordd Trehafod ym Mhontypridd. Mae’r datblygiad hwn, sy’n werth £1 miliwn, yn cynnig 8 fflat un ystafell wely, a thŷ-tref pedair ystafell wely a fydd ar gael i’w rhentu i bobl leol. Gobeithio y bydd y datblygiad hwn yn barod erbyn y gwanwyn 2018.
I wneud cais am gartref yn Rhondda Cynon Taf, mae'n rhaid i chi yn gyntaf gofrestru eich diddordeb gyda'r awdurdod lleol. Byddant wedyn yn prosesu eich cais ac yn cysylltu gydag unrhyw gwestiynau neu ymholiadau a all fod ganddynt.