High Street

High Street, Barry

Y datblygiad

Gan weithio mewn partneriaeth gyda Chyngor Bro Morgannwg, mae Newydd wedi comisiynu LCB Construction i droi eiddo masnachol ar High Street, Y Barri, i gartref dwy ystafell wely, ac i adeiladu eiddo dwy ystafell wely newydd sbon gerllaw yng Nghwrt Bethesda.

Dechreuodd y gwaith ar y prosiect £196,000 hwn, a ariennir gan Gyngor Bro Morgannwg drwy Gronfa Benthyciadau Canol Trefi Llywodraeth Cymru, yn Hydref 2016. Bydd y newidiadau i’r eiddo masnachol yn cynnwys ystafell ymolchi, cegin a tho newydd, ac ystafelloedd byw wedi eu had-drefnu.

Ymgysylltu â’r cyhoedd

Mae gan Newydd Dîm Adfywio Cymunedol gweithgar iawn yn yr ardal, yn cynnig cyrsiau paratoi tenantiaeth, dosbarthiadau galw-mewn digidol, clybiau swyddi a chlybiau fit bit, i enwi dim ond ychydig! Cewch hyd i fwy o wybodaeth ar ein tudalen Facebook.

Archwiliwch pob cartref