Derbyniwyd caniatâd cynllunio ar gyfer dau datblygiad yn y Drenewydd, yn Heol y Coleg ac Heol y Faenor, ym mis Rhagfyr 2016 ar gyfer 2 fflat un ystafell wely a byngalo un ystafell wely ar dir sydd eisoes ym meddiant Newydd.
Hwn fydd y tro cyntaf i Newydd adeiladu ym Mhowys mewn partneriaeth â Chyngor Sir Powys a gan ddefnydio cyllid gan Lywodraeth Cymru. Bydd y contractwyr Graham Ottoway Builders Ltd yn cychwyn y datblygiad, a gynlluniwyd gan y pensaerniaid Tony King, ym mis Mawrth 2017.
Gweler y llun uchod ar gyfer dyluniad y fflatiau un ystafell wely, mae gan bob fflat ddrws ffrynt.