Datganiad ar Gyflogaeth Foesegol mewn Cadwyni Cyflenwi
Mae Grŵp Newydd yn cynnwys nifer o sefydliadau sy’n rhannu’r nod o ddarparu tai fforddiadwy a chefnogi cymunedau cynaliadwy gyda gwasanaethau rhagorol i denantiaid a chwsmeriaid. Rydym yn berchen ar ac yn rheoli dros 3,000 o gartrefi ledled de a chanolbarth Cymru, ac yn gwneud cyfraniad pwysig i’r economi leol drwy ein buddsoddiad mewn tai a gwasanaethau newydd a rhai sy’n bodoli’n barod.
Ym mis Tachwedd 2017 fe wnaethom fabwysiadu Cod Ymarfer Llywodraeth Cymru ar Gyflogaeth Foesegol mewn Cadwyni Cyflenwi, ac rydym wedi ymrwymo i sicrhau nad oes unrhyw gaethwasiaeth na masnachu pobl yn digwydd mewn unrhyw ran o’n sefydliad na’n cadwyni cyflenwi.
Rydym wedi penodi ein Prif Weithredwr fel ein Hyrwyddwr Cyflogaeth Foesegol ac rydym wedi datblygu cynllun gweithredu i gwrdd â’r 12 ymrwymiad yn y Cod. Mae’r Bwrdd yn adolygu ein cynnydd a’r datganiad hwn yn flynyddol.
Rydym wedi datblygu Polisi Cyflogaeth Foesegol sy’n gosod allan sut rydym yn cydymffurfio ag egwyddorion y Cod Sylfaen Menter Masnachu Moesegol:
- Mae pob unigolyn yn rhydd i ddewis cyflogaeth
- Perchir y rhyddid i ymgysylltu a’r hawl i gydfargeinio
- Mae’r amodau gwaith yn ddiogel ac yn lanweithiol
- Ni ddefnyddir llafur plant
- Telir cyflog byw
- Nid yw’r oriau gwaith yn eithafol
- Ni ymarferir gwahaniaethu
- Darperir cyflogaeth reolaidd
- Ni chaniateir triniaeth galed nac annynol
Wrth gwrdd â’r egwyddorion hyn, rydym yn gwneud y pethau canlynol:
Cyflogaeth
Rydym yn cyflogi staff yn uniongyrchol neu, lle bo anghenion busnes yn galw am hynny, drwy asiantaethau recriwtio neu gyflogaeth. Lle bo angen, byddwn yn talu ffioedd asiantaeth ond rydym yn ceisio lleihau eu defnydd a’r taliadau amdanynt gymaint ag a ellir. Wrth gaffael defnydd asiantaeth recriwtio neu gyflogaeth, byddwn yn sicrhau bod eu harferion yn cydymffurfio.
Ac eithrio profiad gwaith a phrentisiaethau, rydym yn talu cyfraddau cyflog byw y 'Living Wage Foundation' i’n staff. Rydym hefyd yn annog ein cadwyn gyflenwi i gydymffurfio a byddwn yn ystyried eu safbwynt ar hyn wrth wneud penderfyniadau caffael.
Rydym yn parchu hawl ein gweithwyr i ymuno ag undeb lafur ac nid ydym yn cosbrestru, ac nid ydym yn caniatáu hyn yn ein cadwyn gyflenwi.
Caffael
Rydym yn chwilio am werth am arian yn y broses gaffael a byddwn yn ystyried a yw’r telerau a gynigir yn bosib yn unig oherwydd arferion cyflogaeth neu busnes anfoesegol. Byddwn yn adolygu’r defnydd o isgontractwyr, manylebion ansafonol, telerau talu a dyddiadau cwblhau wrth wneud penderfyniadau caffael. Lle nad ydym yn teimlo bod y cyflenwr yn cydymffurfio gydag ysbryd y polisi hwn neu ei fod yn defnyddio telerau annheg, ni fyddwn yn ymrwymo iddynt.
Mae ein cadwyn gyflenwi uniongyrchol wedi ei lleoli yn y DU, fodd bynnag efallai y caffaelir cynhyrchion a rhai gwasanaethau yn rhyngwladol. Byddwn yn cynnal gwiriadau diwydrwydd dyladwy priodol lle rydym yn credu bod risg bod y polisi hwn yn cael ei beryglu. Os yw’r gwiriadau hyn yn cadarnhau bod y polisi hwn wedi ei dorri, byddwn yn cymryd y camau angenrheidiol i naill ai unioni’r cam neu i derfynu’r berthynas ar y cyfle nesaf.
Rydym yn datblygu Strategaeth Gaffael Gynaliadwy i helpu gyda gweithrediad y camau hyn ac i gwrdd yn well ag amrywiaeth o ddisgwyliadau a gofynion o ran penderfyniadau caffael.
Diogelu ac Uwchgyfeirio
Mae gennym brosesau diogelu cadarn mewn lle ac rydym wedi hyfforddi ein staff ar eu cyfrifoldebau a’u rôl mewn rhoi gwybod am broblemau posib o ran diogelu a gwarchod pobl sy’n agored i niwed.
Mae gennym system mewn lle ar gyfer rhoi gwybod am bryderon neu achosion o dorri rheolau, ac ar gyfer uwchgyfeirio’r materion hyn (yn enwedig o ran llygredigaeth, twyll a materion diogelwch) yn fewnol neu i asiantaethau rheoleiddio/statudol allanol. Mae ein prosesau uwchgyfeirio wedi cael eu hadolygu ac rydym yn gweithio i sicrhau bod ein holl staff yn ymwybodol o’u hawliau a’u hamddiffyniadau o ran uwchgyfeirio materion o bryder.
Mae gennym ni broses cwynion sydd ar gael yn gyhoeddus er mwyn galluogi partïon allanol i godi materion o bryder.
Paul Roberts
Prif Weithredwr a Hyrwyddwr Cyflogaeth Foesegol