Cydymffurfio â rheoliadau
Cydymffurfio â rheoliadau
Mae Cymdeithas Tai Newydd a’r rhiant-gwmni Grŵp Cadarn (a elwid gynt yn Grŵp Newydd) yn landlordiaid cymdeithasol cofrestredig. Mae’r ddau yn gweithredu fel Cymdeithasau Cydweithredol & Budd Cymunedol ac mae ganddynt reolau model; mae Newydd yn gweithredu’n unol â rheolau elusennol tra mae Grŵp Newydd yn gweithredu yn ôl rheolau anelusennol. Mae rheoleiddio sylfaenol o landlordiaid cymdeithasol cofrestredig yn gyfrifoldeb ar Lywodraeth Cymru. Mae’r rheoliad yn cael ei gyflawni yn unol â’r Fframwaith Rheoleiddio ar gyfer Cymdeithasau Tai sydd wedi’u Cofrestru yng Nghymru.
Mae gan Grŵp Cadarn hefyd ddau gwmni arall sy’n is-aelodau, sef Living Quarters (Lettings and Sales) Wales Ltd a Newydd Maintenance Ltd. Nid yw’r cwmnïau hyn yn landlordiaid cymdeithasol cofrestredig. Mae Living Quarters (Lettings and Sales) Wales Ltd yn cynnal gosodiadau marchnad a gweithgareddau gwerthu ar ran y Grŵp, ac mae Newydd Maintenance Ltd yn darparu gwasanaethau cynnal a chadw i Newydd.
Y Fframwaith Rheoleiddio
Mae’r Fframwaith Rheoleiddio yn darparu ffocws ar welliannau parhaus a dyfarniad Rheoleiddiwr clir. Mae gofyn i gymdeithasau ddarparu datganiad blynyddol o gydymffurfiaeth gyda’r safonau perfformiad a osodir gan Lywodraeth Cymru.
Bydd y ffocws rheoleiddio ar risgiau strategol ac ar faterion hyfywedd busnes wrth i gymdeithasau tai barhau i ymateb i amgylchedd gweithredu sy’n newid ac sy’n dod yn fwyfwy cymhleth. Bydd mwy o ffocws ar lywodraethu da, yn benodol ar ba mor sicr yw’r Bwrdd ei fod yn cyflawni’n gywir ac yn llawn ei brif gyfrifoldeb o sicrhau bod y Gymdeithas yn cael ei rhedeg yn effeithiol.
Cewch hyd i’r Fframwaith Rheoleiddio ar gyfer Cymdeithasau Tai yma.
Bydd y Rheoleiddiwr yn rhoi dyfarniad ar “gapasiti i wella” pob Cymdeithas. Caiff y dyfarniad hwn ei adlewyrchu mewn statws cyd-reoleiddio a gyhoeddir yn flynyddol ar gyfer llywodraethu (gan gynnwys safon gwasanaeth) ac ar gyfer hyfywedd ariannol.
Seilir yr asesiad o gapasiti’r sefydliad i wella ar gyfres o ffactorau dyfarnu sy’n asesu’r gallu i reoli a gwella’r busnes yn effeithiol.
Cyhoeddir y statws cyfredol yn Nyfarniad Rheoleiddio blynyddol pob Cymdeithas; cewch hyd i’n Dyfarniad Rheoleiddio diweddaraf (Mawrth 2023) yma.
Datganiad Cydymffurfiaeth Blynyddol
Mae’r datganiad cydymffurfiaeth yn ddatganiad gan y Bwrdd ei fod yn fodlon neu’n sicr ei fod yn cwrdd â’r holl Safonau Perfformiad neu, os na fedrir darparu tystiolaeth lawn o gydymffurfiaeth, bydd yn gosod allan esboniad a chrynodeb o’r camau fydd angen eu cymryd i wella cydymffurfiaeth a gaiff ei arfarnu gan y rheoleiddiwr.
Cewch hyd i’n datganiad cydymffurfiaeth diweddaraf yma.
Cod Llywodraethu
Mae’r Grŵp yn anelu i arddangos safonau uchel o lywodraethu ac mae wedi mabwysiadu Cod Llywodraethu Tai Cymunedol Cymru. Asesir cydymffurfiaeth yn rheolaidd a gall y Byrddau gadarnhau eu bod yn cydymffurfio’n llawn, a byddant yn parhau i adolygu cynnydd i sicrhau eu bod yn parhau i gydymffurfio.
Dyma’r elfennau allweddol i’n dull o lywodraethu:
- Gwerthoedd wedi’u seilio ar wneud penderfyniadau agored a thryloyw gyda safonau uniondeb uchel
- Atebolrwydd i denantiaid a rhanddeiliaid drwy rannu gwybodaeth a chyfleoedd i herio systemau clir ac effeithiol ar gyfer dirprwyaeth a rheolaeth sy’n ddarostyngedig i graffu ac archwilio
- Aelodau Bwrdd medrus ac effeithiol sy’n ddarostyngedig i arfarnu, cynllunio olyniaeth a disgrifiadau rôl clir
- Pwyslais clir ar wella a gwerth am arian
Mae’r Bwrdd hefyd wedi ymrwymo i gynyddu amrywiaeth yr aelodau drwy fabwysiadu her ‘Arwain Amrywiaeth erbyn 2020’ y Sefydliad Tai Siartredig.