Gwaith mawr a chynnal a chadw wedi’u cynllunio

Mae gwaith mawr a gwaith cynnal a chadw wedi’u cynllunio yn cynnwys gwaith adnewyddu, trwsio a chynnal a chadw a wnawn i’n hadeiladau ar ôl cynllunio amdanynt ymlaen llaw. Gall hyn gynnwys gwaith i fricwaith allanol, y to, ffenestri cymunedol ac addurniadau mewnol cymunedol. Dan delerau’ch les, rhaid ichi gyfrannu tâl gwasanaeth at gost y gwaith hwn. Fodd bynnag, byddwch yn talu amdano mewn ffordd wahanol i’ch tâl gwasanaeth blynyddol arferol.

Bydd Newydd yn cynnal ymgynghoriad llawn â lesddeiliaid os yw cost unrhyw waith cymwys i unrhyw lesddeiliaid yn fwy na £250. Mae gwaith cymwys yn cael ei ddiffinio fel gwaith trwsio, cynnal a chadw, adnewyddu neu wella.

Dan delerau’r les, rhaid ichi dalu’ch cyfran o gost gwaith mawr. Bydd Newydd yn ceisio cynnig amrywiaeth o ddewisiadau talu i helpu lesddeiliaid a fyddai fel arall yn cael trafferth yn talu eu costau dyledus. Hwyrach y bydd cymhwyster am ddewisiadau ad-dalu penodol yn dibynnu ar amgylchiadau’r lesddeiliad.

Gall y dewisiadau ad-dalu gynnwys:

  • Cael ail forgais, os gellir sicrhau hwn yn erbyn eiddo’r lesddeiliad.
  • Ad-dalu drwy randaliadau dros gyfnod y cytunir arno (gan gynnwys ad-dalu llog).
  • Lle bo hynny'n briodol, gosod ail forgais ar yr eiddo a gohirio taliad nes i'r eiddo werthu. Bydd yr opsiwn hwn yn cronni llog tra bydd y ddyled costau yn ddyledus.

Cymorth gan Lywodraeth Cymru

Yn 2015, fe wnaeth Gweinidogion Cymru ofyn i landlordiaid cymdeithasol a lesddeiliaid ddatblygu cyfarwyddyd ar sut y dylid rheoli gwaith mawr i flociau’n cynnwys eiddo lesddaliadol, mae'r canllawiau yma nawr wedi cael eu cyhoeddi. Cynlluniwyd y canllawiau yma i helpu landlordiaid cymdeithasol i reoli’r broses waith mawr yn deg ac yn gyson ac hefyd i roi gwybod i lesddeilaid yr hyn y gall gwaith mawr olygu. Cliciwch isod er mwyn darllen y canllawiau.