Credyd Cynhwysol

Mae’r Credyd Cynhwysol yn fath o fudd-dal wedi’i ddylunio i gefnogi pobl sydd ar incwm isel neu yn ddiwaith. Mae’r system newydd yn seiliedig ar un taliad misol, sydd yn cael ei drosglwyddo yn uniongyrchol i gyfrif banc. 

Os hoffech ddarllen canllaw cam wrth gam ar Gredyd Cynhwysol, cliciwch yma.

Yn anffodus nid yw'r fideo isod ar gael yn y Gymraeg.

Mae’r budd-daliadau y bydd yn eu disodli yn cynnwys:

  • Lwfans Ceiswyr Gwaith
  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth
  • Cymorth Incwm
  • Credyd Treth Plant
  • Credyd Treth Gwaith
  • Budd-dal Tai

Money Manager

Mae Helpwr Arian wedi ei ddylunio yn arbennig ar gyfer pobl ar Gredyd Cynhwysol. Fedrwch ei ddefnyddio naill ai os ydych yn gwneud ymgais newydd neu’n symud i Gredyd Cynhwysol o fudd-daliadau sy’n bodoli yn barod. Bydd hwn yn helpu chi gwneud y mwyaf o’ch arian. Mae’r wybodaeth a’r cyngor i gyd yn Helpwr Arian yn deillio o arbenigwyr a beth mae pobl ar Gredyd Cynhwysol wedi adrodd iddyn nhw.

Cliciwch yma i fynd i wefan Helpwr Arian.

Talu eich rhent

Mae'n rhaid chi dalu eich rhent yn uniongyrchol i Newydd eich hun – rhywbeth nad ydych wedi ei wneud efallai yn y gorffennol os oedd eich budd-dal tai yn cael ei dalu’n uniongyrchol i Newydd. Dim ond os ydy’r Adran Gwaith a Phensiynau yn meddwl eich bod yn hyglwyf neu bod gennych angen sydd yn golygu y byddech yn elwa o gael y taliad hwn wedi’i dalu i Newydd ar eich rhan y caiff eich rhent ei dalu’n uniongyrchol i Newydd. Gall hyn fod yn wir hefyd os oes gennych ddyledion rhent o 8 wythnos neu os oes gennych hanes o ddyledion gyda’ch landlord.

Beth all Newydd wneud i fy helpu?

  • Darparu cymorth i gyllidebu
  • Help i fynd ar-lein, datblygu sgiliau TG a chael mynediad i’r rhyngrwyd
  • Diweddariadau rheolaidd ar ein gwefan ac cyfryngau cymdeithasol
Anfonwch e-bost at financialinclusion@newydd.co.uk gyda’ch enw, cyfeiriad a’ch rhif ffôn a rhowch wybod iddynt ba gyngor sydd ei angen arnoch, a byddant mewn cysylltiad cyn gynted ag y gallant.

Gwnewch yn siŵr eich bod yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf inni amdanoch chi a’ch teulu.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau cysylltwch a ni wrth ffonio 0303 040 1998 neu wrth ebostio financialinclusion@newydd.co.uk